Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
2013 dccc 7
Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer mapio llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig ac ar gyfer mapiau rhwydwaith integredig ac mewn cysylltiad â’r mapiau hynny; ar gyfer sicrhau bod llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell; ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol gymryd camau rhesymol i wella’r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a rhoi sylw i’w hanghenion; ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i swyddogaethau o dan y Ddeddf gael eu harfer er mwyn hyrwyddo teithiau teithio llesol a sicrhau llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell; ac at ddibenion cysylltiedig.
Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chael cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
Cyflwyniad
1Trosolwg
Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth—
a
ar gyfer mapiau a gymeradwyir o lwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig mewn ardal awdurdod lleol,
b
ar gyfer mapiau rhwydwaith integredig a gymeradwyir o’r llwybrau teithio llesol newydd a gwell a’r cyfleusterau cysylltiedig y mae eu hangen i greu rhwydweithiau integredig o lwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig mewn ardal awdurdod lleol,
c
sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i fapiau rhwydwaith integredig wrth lunio polisïau trafnidiaeth ac i sicrhau bod llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell,
d
sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd ar deithio llesol yng Nghymru,
e
sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol, wrth gyflawni swyddogaethau o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, gymryd camau rhesymol i wella’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer cerddwyr a beicwyr a rhoi sylw i anghenion cerddwyr a beicwyr wrth arfer swyddogaethau penodol eraill, ac
f
sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf er mwyn hyrwyddo teithiau teithio llesol a sicrhau llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell.
2Ystyr “llwybr teithio llesol” a “cyfleusterau cysylltiedig” etc.
1
At ddibenion y Ddeddf hon mae llwybr mewn ardal awdurdod lleol yn llwybr teithio llesol—
a
os yw’r llwybr mewn man ddynodedig yn yr ardal, a
b
os yw’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn briodol iddo gael ei ystyried yn llwybr teithio llesol.
2
Yn yr adran hon ystyr “llwybr” yw priffordd, neu unrhyw lwybr arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, (gan gynnwys croesfan priffordd neu unrhyw lwybr o’r fath) ac y caiff cerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, ei ddefnyddio’n gyfreithlon.
3
Yn y Ddeddf hon ystyr “cerddwyr a beicwyr” yw—
a
pobl sy’n cerdded,
b
pobl sy’n defnyddio beiciau pedal, ac eithrio beiciau pedal sy’n gerbydau modur at ddibenion Deddf Traffig Ffyrdd 1988, ac
c
pobl anabl nad ydynt o fewn paragraff (a) na (b) sy’n defnyddio cadeiriau olwyn modur, sgwteri symudedd neu gymhorthion symudedd eraill.
4
Yn y Ddeddf hon ystyr “dynodedig”, mewn perthynas â man, yw wedi ei phennu, neu o ddisgrifiad sydd wedi ei bennu, mewn cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru.
5
Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu man, neu ddisgrifiad o fan, drwy gyfeirio at—
a
dwysedd ei phoblogaeth,
b
ei maint,
c
ei hagosrwydd at fannau dwys eu poblogaeth sy’n fwy na maint penodol,
d
ei safle rhwng y cyfryw fannau,
e
ei hagosrwydd at wasanaethau a chyfleusterau cymunedol, neu
f
y potensial, am resymau eraill, i fod yn fan, neu’n ddisgrifiad o fan, lle y mae cerddwyr a beicwyr yn gwneud mwy o deithio a hynny trwy deithiau teithio llesol.
6
Wrth ystyried a yw’n briodol i lwybr gael ei ystyried yn llwybr teithio llesol, rhaid i awdurdod lleol roi ystyriaeth i’r canlynol—
a
a yw’r llwybr yn hwyluso gwneud teithiau teithio llesol gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, a
b
a yw lleoliad, natur a chyflwr y llwybr yn ei wneud yn addas i’w ddefnyddio yn ddiogel gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad ar gyfer gwneud y teithiau hynny,
a rhaid iddo roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
7
Yn y Ddeddf hon ystyr “taith teithio llesol” yw taith a wneir i weithle neu sefydliad addysgol neu oddi yno neu er mwyn defnyddio gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd neu hamdden neu wasanaethau neu gyfleusterau eraill.
8
At ddibenion y Ddeddf hon ystyr “cyfleusterau cysylltiedig”, mewn perthynas â llwybr teithio llesol, yw—
a
cyfleusterau sy’n rhoi lloches, cyfleusterau gorffwys neu gyfleusterau storio,
b
toiledau neu gyfleusterau ymolchi,
c
arwyddion, neu
d
cyfleusterau eraill,
sydd ar gael i’w defnyddio gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, sy’n defnyddio’r llwybr teithio llesol.
9
Wrth benderfynu a yw unrhyw beth yn gyfleusterau cysylltiedig at ddibenion y Ddeddf hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
Mapiau
3Mapiau llwybrau presennol
1
Rhaid i bob awdurdod lleol—
a
llunio map llwybrau presennol, a
b
ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.
2
At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “map llwybrau presennol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw map sy’n dangos y llwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig yn ardal yr awdurdod lleol.
3
Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap llwybrau presennol rhaid iddo ymgynghori â’r canlynol—
a
pob person sydd wedi gwneud cais i’r awdurdod lleol ymgynghori ag ef am ei fap llwybrau presennol, a
b
unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.
4
Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap llwybrau presennol rhaid iddo roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—
a
yr ymgynghoriad a’r camau eraill sydd i’w cymryd wrth ei lunio,
b
y materion sydd i’w dangos arno, ac
c
ei ffurf.
5
Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei fap llwybrau presennol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo—
a
cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y daw’r adran hon i rym, neu
b
os yw Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol yn pennu dyddiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw fel y dyddiad y mae rhaid ei gyflwyno iddynt, heb fod yn hwyrach na’r dyddiad hwnnw.
6
Wrth gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol gyflwyno iddynt hefyd—
a
datganiad ynghylch i ba raddau (os o gwbl) y mae unrhyw un neu ragor o’r llwybrau teithio llesol a ddangosir arno yn peidio â chydymffurfio â’r safonau a bennir yn y canllawiau a roddir o dan adran 2(6), a
b
esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu, er hynny, ei bod yn briodol iddynt gael eu hystyried yn llwybrau teithio llesol.
7
Wrth gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon ar unrhyw achlysur ac eithrio’r achlysur cyntaf, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno adroddiad iddynt hefyd yn pennu sut y mae lefel y defnydd o lwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig yn ardal yr awdurdod lleol wedi newid ers yr achlysur blaenorol pan gyflwynodd yr awdurdod lleol fap llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
8
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo map llwybrau presennol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon, cânt drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol—
a
ei ddiwygio (neu ei ddiwygio ymhellach), a
b
ei gyflwyno iddynt i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.
9
Wrth i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylent gymeradwyo map llwybrau presennol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon rhaid iddynt—
a
ystyried a yw’r awdurdod lleol wedi cydymffurfio ag is-adrannau (3) a (4) wrth ei lunio, a
b
ystyried cynnwys y datganiad a’r esboniad a gyflwynwyd o dan is-adran (6).
10
Unwaith y bydd map llwybrau presennol a lunnir gan awdurdod lleol wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru—
a
rhaid i’r awdurdod lleol ei adolygu’n barhaus,
b
caiff yr awdurdod lleol ei ddiwygio, ac
c
rhaid i’r awdurdod lleol ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ar bob achlysur y caiff map rhwydwaith integredig yr awdurdod lleol ei gyflwyno i’w gymeradwyo o dan adran 4.
11
Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i awdurdod lleol bennu achlysur sy’n wahanol i’r hyn a bennir yn is-adran (10)(c) fel yr achlysur y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.
4Mapiau rhwydwaith integredig
1
Rhaid i bob awdurdod lleol—
a
llunio map rhwydwaith integredig, a
b
ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.
2
At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “map rhwydwaith integredig”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw map sy’n dangos—
a
y llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig, a
b
y gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig,
y mae eu hangen ym marn yr awdurdod lleol i ddatblygu neu wella rhwydwaith integredig o lwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig mewn mannau dynodedig yn ei ardal.
3
Wrth i awdurdod lleol baratoi ei fap rhwydwaith integredig rhaid iddo ymgynghori â’r canlynol—
a
pob person sydd wedi gwneud cais i’r awdurdod lleol ymgynghori ag ef am ei fap llwybrau presennol, a
b
unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.
4
Wrth baratoi ei fap rhwydwaith integredig rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ddymunoldeb—
a
hyrwyddo teithiau teithio llesol, a
b
sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig a gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig.
5
Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap rhwydwaith integredig rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o ran—
a
yr ymgynghoriad a’r camau eraill sydd i’w cymryd wrth ei lunio,
b
y cyfnod y mae i ymwneud ag ef,
c
y materion sydd i’w dangos arno, a
d
ei ffurf.
6
Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei fap rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo—
a
cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y daw’r adran hon i rym, neu
b
os yw Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol yn pennu dyddiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw fel y dyddiad y mae rhaid ei gyflwyno iddynt, heb fod yn hwyrach na’r dyddiad hwnnw.
7
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo map rhwydwaith integredig a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon, cânt drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol—
a
ei ddiwygio (neu ei ddiwygio ymhellach), a
b
ei gyflwyno iddynt i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.
8
Wrth i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylent gymeradwyo map rhwydwaith integredig a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon rhaid iddynt ystyried a yw’r awdurdod lleol wedi cydymffurfio ag is-adrannau (3) a (5) wrth ei lunio.
9
Unwaith y bydd map rhwydwaith integredig a lunnir gan awdurdod lleol wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru—
a
rhaid i’r awdurdod lleol ei adolygu’n barhaus,
b
caiff yr awdurdod lleol ei ddiwygio, ac
c
rhaid i’r awdurdod lleol ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn diwedd pob cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y’i cymeradwywyd ganddynt ddiwethaf.
10
Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i awdurdod lleol bennu cyfnod sy’n wahanol i’r cyfnod yn is-adran (9)(c) fel y cyfnod y mae rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno map rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn ei ddiwedd.
5Cyhoeddi etc. mapiau
1
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i fap llwybrau presennol neu fap rhwydwaith integredig a lunnir gan awdurdod lleol gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid i’r awdurdod lleol—
a
ei gyhoeddi yn y modd hwnnw sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol,
b
anfon copi yn rhad ac am ddim i’r personau hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol,
c
darparu copi ohono, neu ran ohono, i unrhyw berson ar gais naill ai yn rhad ac am ddim neu am ddim mwy na’r gost o ddarparu’r copi,
d
peri i gopi fod ar gael i edrych arno (ar bob adeg resymol) yn y mannau hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol, ac
e
rhoi hysbysiad, yn y modd hwnnw sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol, i ddwyn y mannau hynny lle y mae copi ohono ar gael i edrych arno i sylw’r cyhoedd.
2
Wrth i awdurdod lleol benderfynu ar yr hyn sy’n briodol at ddibenion is-adran (1) rhaid i’r awdurdod lleol hwnnw roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
3
Pan fo awdurdod lleol, mewn perthynas â map llwybrau presennol a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru, wedi cyflwyno datganiad ac esboniad iddynt o dan adran 3(6) neu adroddiad o dan adran 3(7), rhaid i’r awdurdod lleol—
a
ei gyhoeddi yn y modd hwnnw sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol,
b
anfon copi yn rhad ac am ddim i’r personau hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol,
c
darparu copi ohono, neu ran ohono, i unrhyw berson naill ai yn rhad ac am ddim neu am ddim mwy na’r pris o ddarparu’r copi,
d
peri i gopi fod ar gael i edrych arno (ar bob adeg resymol) yn y mannau hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol, ac
e
rhoi hysbysiad, yn y modd hwnnw sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol, i ddwyn y mannau hynny y mae copi ohono ar gael i edrych arno i sylw’r cyhoedd.
6Datblygu polisïau trafnidiaeth gan roi sylw i fap rhwydwaith integredig
Rhaid i bob awdurdod lleol, wrth ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) neu (2A) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (polisïau sy’n sail i gynlluniau trafnidiaeth lleol), roi sylw i’r map rhwydwaith integredig ar gyfer ei ardal.
Darpariaethau eraill
7Sicrhau gwelliant parhaus i lwybrau teithio llesol
1
Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau bob blwyddyn fod—
a
llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd, a
b
gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig presennol,
yn ei ardal.
2
Rhaid i awdurdod lleol, wrth gyflawni’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (1), roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
3
Rhaid i bob awdurdod lleol roi adroddiad i Weinidogion Cymru yn pennu’r costau a dynnwyd ganddo ym mhob blwyddyn ariannol wrth gyflawni’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (1).
8Adroddiadau gan Weinidogion Cymru ar deithio llesol
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiadau blynyddol ynghylch i ba raddau y mae cerddwyr a beicwyr yn gwneud teithiau teithio llesol yng Nghymru.
9Darparu ar gyfer cerddwyr a beicwyr wrth arfer swyddogaethau penodol
1
Rhaid i Weinidogion Cymru a phob awdurdod lleol, wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o dan Rannau 3, 4, 5, 9 a 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (creu, cynnal a chadw a gwella priffyrdd, ymyrryd â phriffyrdd a chaffael etc. tir), i’r graddau y bo’n ymarferol gwneud hynny, gymryd camau rhesymol i wella’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru a phob awdurdod lleol roi sylw i anghenion cerddwyr a beicwyr wrth arfer eu swyddogaethau o dan—
a
Rhannau 1, 2, 4 a 7 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (rheoleiddio traffig cyffredinol ac arbennig, mannau parcio a rhwystrau),
b
Rhan 3 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (gwaith stryd), ac
c
Rhan 2 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (rheoli’r rhwydwaith gan awdurdodau traffig lleol).
10Dyletswydd i arfer swyddogaethau i hyrwyddo teithio llesol
1
Rhaid i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn modd sydd wedi ei ddylunio i—
a
hyrwyddo teithiau teithio llesol, a
b
sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig a gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig.
2
Rhaid i bob awdurdod lleol roi adroddiad i Weinidogion Cymru yn pennu’r hyn y mae wedi ei wneud ym mhob blwyddyn ariannol wrth gyflawni’r ddyletswydd a osodir arno gan is-adran (1).
Atodol
11Adolygu gweithrediad y Ddeddf
Rhaid i Weinidogion Cymru, dim hwyrach na’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau yn union ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn adran 4(6)(a), gynnal adolygiad o weithrediad y Ddeddf hon, gyda’r nod penodol o asesu pa mor llwyddiannus y bu wrth sicrhau llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwella’r llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig presennol.
12Cyfarwyddiadau a chanllawiau
1
Caniateir i unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau a roddir o dan y Ddeddf hon gan Weinidogion Cymru gael eu hamrywio neu eu dirymu ganddynt.
2
Wrth roi (neu amrywio neu ddirymu) cyfarwyddiadau neu ganllawiau o dan y Ddeddf hon rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb—
a
hyrwyddo teithiau teithio llesol, a
b
sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig a gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig.
13Dehongli
Yn y Ddeddf hon—
-
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
-
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;
-
mae i “cerddwyr a beicwyr” (“walkers and cyclists”) yr ystyr a roddir gan adran 2(3);
-
mae “cyfleusterau cysylltiedig” (“related facilities”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2(8) a (9);
-
mae i “dynodedig” (“designated”) yr ystyr a roddir gan adran 2(4);
-
mae i “llwybr teithio llesol” (“active travel route”) yr ystyr a roddir gan adran 2(1);
-
mae i “map llwybrau presennol” (“existing routes map”) yr ystyr a roddir gan adran 3(2);
-
mae i “map rhwydwaith integredig” (“integrated network map”) yr ystyr a roddir gan adran 4(2);
-
mae i “taith teithio llesol” (“active travel journey”) yr ystyr a roddir gan adran 2(7).
14Cychwyn
1
Daw adrannau 3 i 11 i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
2
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael Cydsyniad Brenhinol.
15Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.